h1

Adroddiad y Panel Ffydd a Threfn: Tachwedd 2009

 

1. Aelodaeth

 

Y Parchg Gwynn ap Gwilym (Yr Eglwys yng Nghymru), Y Parchg Cathy Gale (Yr Eglwys Fethodistaidd), Y Parchg John Henson (Yr Eglwysi Bedyddiedig Cyfamodol), Y Parchg Peter Trow (Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig), Y Parchg Adrian P Williams (Eglwys Bresbyteraidd Cymru).

Cynrychiolodd y Parchg Glyn Tudwal Jones Eglwys Bresbyteraidd Cymru mewn un cyfarfod.

 

2.  Dull o weithio

Cyfarfu’r Panel deirgwaith. Cyfarfod rhagarweiniol oedd yr un cyntaf i ystyried y papurau ynghylch Datganiad Trefeca 2005 a baratowyd gan Ifan Roberts, Cathy Gale, Peter Noble a John Garland. Ar gyfer yr ail gyfarfod, gofynnwyd i bob aelod baratoi papur byr yn amlinellu eu syniadau a’u hymateb i’r pwnc. Cyflwynwyd Adroddiad Interim yn nodi meysydd gwaith ar gyfer y Panel i’r Comisiwn fis Tachwedd 2008. Yn y trydydd cyfarfod, a oedd, er tristwch, wedi’i ohirio oherwydd salwch y Parchg Peter Trow, rhoddwyd ystyriaeth i gyfraniadau gan yr aelodau ynghylch y meysydd gwaith a nodwyd, a chyflwynwyd Adroddiad Terfynol i’r Comisiwn fis Tachwedd 2009. Gwnaeth y Panel wyth argymhelliad.

3.  Y Cyfamod ar gyfer Undod yng Nghymru 1975 a Datganiad Trefeca 2005 

 

Cytunodd y Panel

  • y dylai ei drafodaethau adeiladu ar ddyheadau’r ddwy ddogfen hon sy’n mynegi dymuniad am undod dwfn rhwng y pum eglwys a gytunodd arnynt;
  • y byddai’n angenrheidiol ailystyried rhai materion y treuliwyd eisoes lawer o egni arnynt ac a esgorodd ar gryn siom.       

 

4.  Y newid yng nghyd-destun cenhadaeth yr Eglwys

Roedd y Panel yn ymwybodol o’r newid rhyfeddol a fu yng nghyd-destun y fenter eciwmenaidd ers sefydlu’r Cyfamod a hyd yn oed ers y trafodaethau a ddilynodd cyhoeddi’r ddogfen Baptism, Eucharist and Ministry (Dogfen Lima) gan Gyngor Eglwysi’r Byd ym 1982.

Mae rhai o’r newidiadau hyn, megis y twf yn y cyd-destun rhyng-grefyddol, sy’n codi cwestiynau ynghylch y dystiolaeth Gristnogol o fewn cymdeithas aml-ffydd, yn effeithio ar yr holl enwadau Cristnogol yng Nghymru, a theimlai’r Panel eu bod yn dod o fewn cylch gorchwyl  cyffredinol Cytûn yn hytrach na’r eiddo’r Comisiwn.

Mae eraill yn effeithio’n uniongyrchol ar waith y Comisiwn. Mae’r newidiadau hynny’n cynnwys:

  • Seciwlareiddio cynyddol cymdeithas: Bu newid sylfaenol ym meddylfryd cymdeithas, fel y tystia’r newidiadau dwys mewn moesoldeb cyhoeddus a diwylliant poblogaidd. Gall y  darnio cynyddol ar ddiwylliant i ddryswch o wahanol ffurfiau arwain at dderbyn yn rhy hawdd ddarnio o fewn yr eglwys a’r dybiaeth nad yw eciwmeniaeth bellach yn fater o bwys. Digwyddodd hyn ar yr un adeg ag y bu’r niferoedd sy’n mynychu eglwysi’n rheolaidd yn parhau i ostwng, gyda chynnydd yn y nifer o bobl na fyddent yn ystyried bod yr eglwys yn berthnasol i’w bywydau o gwbl. O ganlyniad, prin yw presenoldeb sylweddol yr eglwys, os oes presenoldeb o bwys o gwbl, mewn llawer o gymunedau yng Nghymru heddiw.

 

  • Ymddangosiad ffurfiau a datblygiadau eglwysig newydd: Mae mwy a mwy o Gristnogion yn arfer eu ffydd y tu allan i’r eglwysi traddodiadol ac yn datblygu ffyrdd newydd llawn dychymyg o fod yn eglwysi. Pa ffurf ar yr eglwys a fydd yn cyrraedd y rhai sy’n teimlo bod rhaid iddynt ‘adael yr eglwys i ganfod Duw’?

 

  • Mae cynulleidfaoedd llawer o eglwysi lleol yn mynd yn fwy a mwy amrywiol gyda phobl yn dod o lawer o draddodiadau neu o ddim traddodiad o gwbl. Mae hyn yn herio ein hunaniaethau enwadol traddodiadol. Fel y mae eglwysi hyd yn oed o fewn yr un enwad yn datblygu rhyw fath o ‘eciwmeniaeth fewnol’ a oes angen i ni ailystyried ein rhagdybiaethau ynghylch eciwmeniaeth leol?

 

Yr oedd consensws bod cwlwm hanfodol a chymhleth rhwng eciwmeniaeth a chenhadaeth a’n bod efallai wedi gorbwysleisio rhan gyntaf Ioan 17:21 ar draul y diben ‘er mwyn i’r byd gredu’. Nid undod yw nod y ffydd Gristnogol ond iachawdwriaeth, ond lle bo iachawdwriaeth yno y mae undod hefyd.

5.  Y Cyfamod yn y cyd-destun newydd

 

Parhawn i fod yn ymrwymedig i nod ein taith, sef undod gweladwy yr Eglwys yn y modd yr ewyllysia Crist.

.

                                                                                 Datganiad Trefeca, 2005

 

Mae ein hymrwymiad o’r newydd i undod gweladwy’n adlewyrchu’r argyhoeddiad yn yr holl eglwysi cyfamodol ei bod hi hyd yn oed yn fwy allweddol, oherwydd y darnio a’r diffyg grym ymddangosiadol, bod yr eglwys yn adlewyrchu nod Duw yng Nghrist o gymodi ac uno. 

Un awgrym defnyddiol oedd y dylem edrych eto ar ddarlun Paul o’r eglwys fel Corff Crist (Rhufeiniaid 12:4-8, I Corinthiaid 12:12-25) fel patrwm Beiblaidd a diwinyddol posibl ar gyfer undod eglwysig.

O ganlyniad i’n trafodaeth gyffredinol nodasom y meysydd gwaith canlynol y byddem yn gofyn i’r Comisiwn eu hystyried.

 

6.  Y weledigaeth hirdymor: meysydd gwaith o 2011 ymlaen

 

Ceisiasom osod ein trafodaeth ar y meysydd hyn o fewn cyd-destun ein cenhadaeth ac ystyried pa fodelau o undod a fyddai’n galluogi cynulleidfaoedd lleol i ymgymryd â’r genhadaeth honno. Y cwestiwn allweddol oedd ‘Beth y mae’n ei olygu i fod yn eglwys yn y byd sydd ohoni?’

6.1   Undod gweladwy: patrymau strwythurol a llywodraethol

Un gwendid mawr yng Nghyfamod 1975 a Datganiad Trefeca 2005 fel ei gilydd yw na chytunwyd ar unrhyw ddiffiniad o’r cymalau ‘un Eglwys weledig’ ac ‘undod gweladwy yr Eglwys’. O ganlyniad, bu nod y Cyfamod yn amwys. Teimlai’r Panel y byddai’n fuddiol pe bai’r Comisiwn yn gwneud y mater yn eglur.

Buom yn trafod sut y gall undod fod yn amlwg weladwy gan ganiatáu ar yr un pryd amrywiaeth ddilys. Sut y gallwn fod yn gynhwysol ac ar yr un pryd ganiatáu nodweddion gwahanol? Yr ydym eisoes wedi dod o hyd i ffyrdd o wneud hyn o fewn ein heglwysi. A oes  patrymau llywodraeth a strwythur a wna’n weladwy yr hyn a gredwn yn gyffredin, gan ganiatáu hefyd wahaniaethau creadigol mewn diwinyddiaeth ac eglwysyddiaeth?

Ymhlith y patrymau posibl o undod gweladwy mae:

  1. Undeb organig neu gorfforedig, pan fo’r holl eglwysi sy’n cyfranogi’n dod ynghyd gyda ffydd gyffredin, enw cyffredin, strwythur cyffredin a threfn gyffredin, a phob un yn barod i ildio ei hunaniaeth unigol;
  2. Cymdeithas gynghoraidd, pan na fyddir yn gwadu nac yn hepgor hunaniaethau cyffesiadol traddodiadol yr eglwysi sy’n cyfranogi ond lle y mae strwythurau ar gyfer gwneud penderfyniadau ar y cyd;
  3. Amrywiaeth mewn cymod, pan dderbynnir hunaniaethau cyffesiadol fel elfennau anhepgor o’r eglwys gyffredinol sy’n amlygu doniau ysbrydol amrywiol; erys yr eglwysi sy’n cyfranogi’n sefydliadau ar wahân ond eu bod ‘wedi eu cymodi’;
  4. Cymundeb o gymundebau lle mynegir undod gweladwy’r eglwys drwy ‘fathau lluosog’ (Catholig Rufeinig, Bedyddiedig, Uniongred, Anglicanaidd ac ati) o fewn cymundeb un ac unig Eglwys Crist;
  5. Undod fel cydlyniad lle mae undod yn golygu rhannu cyfrifoldeb rhwng eglwysi lleol gyda phob un yn rhoi ac yn derbyn mewn amrywiol agweddau ar waith yr eglwys – megis y litwrgi, cysylltiadau bugeiliol a gweithredu ffydd.

 

Ymddengys bod darpariaethau Cyfamod 1975 a Datganiad Trefeca 2005 yn mynd y tu hwnt i’r gydnabyddiaeth ffurfiol a ddisgrifir ym mhatrymau 2 i 5 uchod. Maent yn mynegi dyhead am ryw undod dyfnach na dim ond amrywiaeth mewn cymod, cydnabod mathau lluosog, cydlyniad mewn cydrannu neu sefydlu cyngor eglwysig sy’n llefaru ar ran hunaniaethau enwadol ar wahân. Tra bod lle i’r patrymau hynny o fewn amcanion cyffredinol Cytûn, ymddengys bod y Cyfamod yn ceisio undod dwysach sy’n cynnwys ‘patrwm o weinidogaeth ordeiniedig y cytunir arno’ a ‘rhannu llywodraeth eglwysig’.

6.2  Undeb Organig

Mae rhai wedi beirniadu undeb organig neu gorfforaethol ar y sail bod ‘y llong wedi hwylio a bellach mae’n bryd nofio’. Teimla eraill bod undeb o’r fath yn golygu llyncu amrywiaeth o draddodiadau o fewn strwythur monolithig a diwinyddol ddi-liw. Yn ddelfrydol, fodd bynnag, mae’r patrwm hwn yn anrhydeddu amrywiaeth dilys o fewn profiad dilys o gymundeb. Cydbletha doniau ysbrydol yr amrywiol draddodiadau o fewn profiad ehangach o gatholigrwydd. Teimlai’r Panel nad yw eto’n rhy hwyr i ymdrechu tuag at y fath brofiad Nghymru. 

Nid oes unrhyw reswm pam na allai eglwys unedig gynnwys amrywiaeth o ddefodau (er enghraifft, bedydd plant a bedydd credinwyr), adeiladau (eglwysi a chapeli), dulliau ac arferion addoli (dilyn litwrgi neu beidio) a safbwyntiau diwinyddol. Byddid yn ystyried pob un o bwysigrwydd cyfartal i wneud Corff Crist yn gyfanrwydd iach ond byddai pob un yn deyrngar yn y pen draw i’r Corff cyfan nid i unrhyw un rhan ohono. Digwydd hyn yn barod i ryw raddau o fewn enwadau unigol.

 

Argymhellwn felly y dylai’r Comisiwn, ynghyd ag arweinwyr yr eglwysi sy’n aelodau ohono pan fyddant yn cyfarfod fis Rhagfyr 2009, ddatgan yn eglur mai eu huchelgais hirdymor yw sefydlu undeb organig o’r math hwn a sefydlu

  •    Eglwys Cymru, sy’n rhannu un ffydd, un strwythur, un weinidogaeth ac un dull llywodraethu, ond 
  • sy’n anrhydeddu ac yn dathlu’r gwahanol safbwyntiau diwinyddol a thraddodiadau addoli sy’n ffurfio’r cyfanrwydd ehangach ac yn ei gyfoethogi.

 

Byddai hyn yn gwneud nod y Comisiwn yn eglur ac ar yr un pryd yn tawelu meddwl y rhai a allai fod yn poeni bod yna fygythiad i’w haddoldai neu i arferion neu iaith eu haddoliad traddodiadol. Byddai hefyd yn dangos bod yna groeso i’r rhai sy’n datblygu ffurfiau eglwysig newydd.

6.3  Strwythur

Yn y cyd-destun hwn, nododd y Panel fod cryn debygrwydd rhwng dulliau llywodraethu’r rhan fwyaf o’r enwadau o fewn y Cyfamod. Llywodraethir y rhan fwyaf ohonynt mewn dull cynghoraidd drwy synod neu gymanfa. Er ei bod yn cael ei harwain gan esgobion, llywodraethir hyd yn oed yr Eglwys yng Nghymru gan gymanfa ac mae gan yr holl aelodau, yn glerigwyr a lleygwyr, lais yn ei phroses ddeddfwriaethol.

Argymhellwn, felly, y dylai’r Comisiwn sefydlu Gweithgor

  • i ystyried dull cyffredin o lywodraeth eglwysig gan ganolbwyntio’n arbennig ar yr elfennau sy’n debyg rhwng y trefniadau enwadol presennol;
  • i lunio dogfen y bydd pob un o’r pum eglwys gyfamodol yn cytuno arni ac a fydd yn datgan yn eglur pa ffurf ar lywodraeth a fyddai’n dderbyniol i bawb ohonom.

 

6.4  Ymgynulliad

Teimlai’r Panel y byddai o fudd cynnal cyfarfodydd rheolaidd o gynrychiolwyr a benodid gan eglwysi sy’n aelodau o’r Cyfamod yn yr un modd ag y maent yn penodi cynrychiolwyr i’w cynadleddau enwadol eu hunain. Byddai hynny’n cynnig i’r holl enwadau ymdeimlad o berthyn i gyfangorff mwy ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i amcanion y Comisiwn.

       Argymhellwn felly y dylai’r Comisiwn drefnu Ymgynulliad o gynrychiolwyr yr Eglwysi

       Cyfamodol yng Nghymru bob tair blynedd, gan gychwyn yn 2011, er mwyn

  • cydaddoli
  • ystyried adroddiadau gan y Comisiwn
  • ystyried materion a godir gan yr eglwysi cyfamodol
  • adrodd yn ôl i’r eglwysi hynny.

 

6.5   Arolygiaeth

Roedd y Panel yn cydnabod bod angen inni, er mor boenus y gallai hynny fod, ystyried y materion canolog a brofodd yn feini tramgwydd yn y gorffennol. Y pennaf o blith y rheini yw mater episkope ac esgobyddiaeth.

 

Sylwasom nad yw’r un o’r eglwysi cyfamodol wedi gwrthod y syniad o esgobyddiaeth a bod yna, fel mater o ffaith, elfennau o episkope personol, cynghoraidd a chymunedol ynddynt oll. Cydnabyddwn, fodd bynnag, nad yw’r elfennau hyn bob amser yn gytbwys. Mae llawer yn credu, er enghraifft, bod Anglicaniaid yn rhoi pwys gormodol ar weinidogaeth bersonol esgobion a bod angen mwy o bwyslais ar yr elfen gymunedol. Ar y llaw arall, ystyrir bod yr eglwysi cyfamodol eraill yn canolbwyntio gormod ar arolygiaeth gymunedol ac y dylent efallai dalu mwy o sylw i arolygiaeth bersonol effeithiol.

      Cytunodd y Panel na fyddai diben ar hyn o bryd atgyfodi’r ymgais i greu esgob eciwmenaidd yng Nghymru na’r cynnig yn nogfen 1986, Gweinidogaeth mewn Eglwys yn Uno, i sefydlu ‘o leiaf ddeunaw esgobaeth’. Teimlem, fodd bynnag, y byddai’n fuddiol i’r eglwysi cyfamodol yng Nghymru ystyried a oes patrwm o arolygiaeth fugeiliol a fyddai’n dderbyniol i bawb ohonom.  

Argymhellwn felly y dylai’r Comisiwn sefydlu Gweithgor

  • i lunio, yn dilyn myfyrio Beiblaidd a diwinyddol, ddogfen y bydd pob un o’r pum eglwys gyfamodol yn cytuno arni yn crynhoi sut yr ydym yn deall y mater hwn ac yn datgan yn eglur pa batrwm o arolygiaeth fugeiliol a fyddai’n dderbyniol i bawb ohonom.


7.    Amcanion mwy tymor byr i’w hystyried gan y Comisiwn

7.1   Y weinidogaeth

Er inni ddatgan mai ein nod yn y tymor hir yw un weinidogaeth ar y cyd, mae’r Canonau Eciwmenaidd a gyhoeddwyd gan yr Eglwys yng Nghymru fis Ebrill 2005 i Gefnogi Cysylltiadau ag Eglwysi Eraill ac i Ganiatáu Sefydlu a Chefnogi Partneriaethau Eciwmenaidd Lleol yn cynnig cyfleoedd blaengar ar gyfer gweinidogaethu eciwmenaidd o dan y Cyfamod yn y tymor byr.

Mae’r canonau’n cydnabod gweinidogaethau enwadau Trindodaidd eraill nad ydynt yn gofyn am ordeinio gan esgob i’r graddau y gall gweinidog enwad arall sydd o fewn y Cyfamod weinidogaethu’n gyflawn i gynulleidfa Anglicanaidd cyn belled ag y bydd esgob yr esgobaeth dan sylw wedi cydsynio.

Ni chredwn ein bod wedi dechrau sylweddoli’r hyn y gallai’r uchod ei olygu. Gwyddom fod yr Eglwys yng Nghymru, drwy ei Swyddogion Eciwmenaidd, yn ceisio sicrhau bod y canonau’n cael eu rhoi ar waith yn fwy effeithiol. Eu gwendid, fe ymddengys, yw’r rhagdybiaeth mai o’r cymunedau Cristnogol lleol y daw’r sbardun am undod. Dangosodd profiad y gorffennol fod ar y cymunedau hynny angen anogaeth a chyngor.

Argymhellwn felly fod y Comisiwn yn penodi Lladmeryddion sy’n cynnwys o leiaf un uwch arweinydd o bob eglwys a awdurdodir yn gyflawn gan eu heglwysi

  • i ddod o hyd i ardaloedd lle y gellid sefydlu Partneriaeth Eciwmenaidd Leol
  • i drafod gyda chynulleidfaoedd o fewn yr ardaloedd hynny er mwyn esbonio amodau’r Cyfamod ac annog sefydlu Partneriaeth Eciwmenaidd Leol.

 

7.2  Rhannu gweinidogaeth ar raddfa leol (Gweinidogaeth Bro)

Gan wybod bod yna lawer o gymunedau yng Nghymru lle na ellir darparu gweinidogaeth ordeiniedig yn effeithiol ond gan un o’r eglwysi cyfamodol ar ran pawb, a chan wybod bod hynny o dan drafodaeth gan y Comisiwn, byddem yn annog y Comisiwn ac arweinwyr yr eglwysi i gymryd pob cam posibl tuag at sefydlu strategaeth eciwmenaidd i wneud penderfyniadau ynghylch lleoli gweinidogion.

Argymhellwn felly fod y Comisiwn yn ystyried a oes yna gymunedau penodol lle y gellid sefydlu patrymau arbrofol ar gyfer gweinidogaethu eciwmenaidd.

7.3    Gwasanaeth Cymun yr Eglwysi Cyfamodol

Er bod y Canonau Eciwmenaidd yn caniatáu cynnal gwasanaeth Cymun ar y cyd gan ddefnyddio un o nifer o wasanaethau enwadol cydnabyddedig, a’i bod yn bwysig annog defnyddio’r gwasanaethau hynny fel dull o gydgyfarfod a rhannu, mae yna rai Partneriaethau Eciwmenaidd Lleol (er enghraifft, llawer o’r eglwysi yn Nwyrain Caerdydd) y mae’n well ganddynt ddefnyddio gwasanaeth gwreiddiol yr Eglwysi Cyfamodol fel mynegiant o’u hunaniaeth eciwmenaidd.

 

Argymhellwn felly fod y Comisiwn  

 

  • yn adolygu’r gwasanaethau bedydd a chymun  
  • yn darparu gwasanaeth conffyrmasiwn ar y cyd i’w ddefnyddio o fewn Partneriaethau Eciwmenaidd Lleol 
  • yn ystyried darparu gwasanaethau ordeinio ar y cyd pan fo hynny’n bosibl. 

 

7.4      Lladmeru  

Mae yna lawer o fewn yr eglwysi sy’n parhau i lynu’n dynn at y weledigaeth eciwmenaidd. Fodd bynnag, arweiniodd disgwyliadau gor-uchelgeisiol y gorffennol at golli brwdfrydedd a’r dyb mai llesteirio’n cenhadaeth yn hytrach na’i hybu a wna gweithio’n eciwmenaidd

Mae llawer o bobl eraill sy’n bodloni ar gydweithio ar lefel ymarferol heb ddirnad gweledigaeth ehangach undod gweladwy. Mae eraill eto nad ydynt erioed wedi ymgodymu â’r symbylau Beiblaidd a diwinyddol tuag at undod.

Mae llawer o weinidogion ordeiniedig nad ydynt yn ymwybodol o’r drysau y mae’r Canonau Eciwmenaidd wedi’u hagor neu y mae angen eu herio i ddarganfod ffyrdd o’u rhoi ar waith. Credwn fod angen brys i ladmeru dros y Cyfamod.  

 

        Argymhellwn felly fod y Comisiwn yn ystyried sut y gellid gweithredu ar hyn.

 

Gwynn ap Gwilym

Tachwedd 2009

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Crynodeb o’r argymhellion

 

1.   Bod y Comisiwn, ynghyd ag arweinwyr yr eglwysi sy’n aelodau ohono pan fyddant yn cyfarfod fis Rhagfyr 2009, yn datgan yn eglur mai eu huchelgais hirdymor yw sefydlu undeb organig a sefydlu

  •    Eglwys Cymru, sy’n rhannu un ffydd, un strwythur, un weinidogaeth ac un dull llywodraethu, ond
  • sy’n anrhydeddu ac yn dathlu’r gwahanol safbwyntiau diwinyddol a’r traddodiadau addoli sy’n ffurfio’r cyfanrwydd ehangach ac yn ei gyfoethogi.

 

2.   Bod y Comisiwn yn sefydlu Gweithgor

  • i ystyried dull o lywodraeth eglwysig ar y cyd gan ganolbwyntio’n arbennig ar yr elfennau sy’n debyg rhwng y trefniadau enwadol presennol;
  • i lunio dogfen y bydd pob un o’r pum eglwys gyfamodol yn cytuno arni ac a fydd yn datgan yn eglur pa ffurf ar lywodraeth a fyddai’n dderbyniol i bawb.

 

3.   Bod y Comisiwn yn trefnu Ymgynulliad o gynrychiolwyr yr Eglwysi Cyfamodol yng       Nghymru bob tair blynedd, gan gychwyn yn 2011, i

  • gydaddoli
  • ystyried adroddiadau gan y Comisiwn
  • ystyried materion a godir gan yr eglwysi cyfamodol
  • adrodd yn ôl i’r eglwysi hynny.

 

4.    Bod y Comisiwn yn sefydlu Gweithgor

  • i lunio, yn dilyn myfyrio Beiblaidd a diwinyddol, ddogfen y bydd pob un o’r pum eglwys gyfamodol yn cytuno arni yn crynhoi sut yr ydym yn deall mater arolygiaeth fugeiliol ac yn datgan yn eglur pa batrwm a fyddai’n dderbyniol i bawb ohonom.

 

5.   Bod y Comisiwn yn penodi Lladmeryddion sy’n cynnwys o leiaf un uwch arweinydd o bob eglwys a awdurdodir yn gyflawn gan eu heglwysi

  • i ddod o hyd i ardaloedd lle y gellid sefydlu Partneriaeth Eciwmenaidd Leol
  • i drafod gyda chynulleidfaoedd o fewn yr ardaloedd hynny er mwyn esbonio amodau’r Cyfamod ac annog sefydlu Partneriaeth Eciwmenaidd Leol.

 

6.    Bod y Comisiwn yn ystyried a oes yna gymunedau penodol lle y gellid sefydlu patrymau  arbrofol ar gyfer gweinidogaeth eciwmenaidd.

7.    Bod y Comisiwn yn: 

 

  • adolygu’r gwasanaethau bedydd a chymun 
  • darparu gwasanaeth conffyrmasiwn ar y cyd i’w ddefnyddio o fewn Partneriaethau Eciwmenaidd Lleol 
  • ystyried darparu gwasanaethau ordeinio ar y cyd pan fo hynny’n bosibl. 

 

8.   Bod y Comisiwn ystyried ffyrdd o ladmeru dros y Cyfamod.

 

 

%d bloggers like this: