h1

COFNODION CYFARFODYDD Y COMISIWN

 

Cofnodion Cyfarfod o Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru a gynhaliwyd ar 26 a 27 Tachwedd 2009 yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas, Plas Windsor, Caerdydd CF10 3BZ ac yng ngwesty’r Holiday Inn, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 1XD

Presennol:

EBeC: John Garland, John Thorne, Marc Dummer

EBC: [1] Brian Matthews, [2] Ifan Roberts, [3] Nia Higginbotham

EDdU: [1] Ann Shillaker, [2] Peter Noble

EF: [1] Cathy Gale, [2] Gordon Sollis (dydd Iau), [3] Stephen Wigley (dydd Gwener)

EyNgh: [1] Gwynn ap Gwilym, [2] Sue Huyton (Cadeirydd), [3] Wyn Evans

Hefyd yn y cyfarfod:

Cytûn: [1] Aled Edwards, [2] Geraint Hopkins (dydd Iau)

EDdU: David Tatem

Cynrychiolydd ar Gyngor Eglwysi’r Byd: Sarah Rogers (dydd Iau)

Cyfieithu: Siôn Aled Owen

Swyddog: Rhian Linecar

Ymddiheuriadau:

EBC: Adrian Williams

EDdu: Peter Trow

EF: Stephen Wigley ar gyfer dydd Iau, Gordon Sollis ar gyfer dydd Gwener

EyNgh: Steve Willson

1. Gweddïau agoriadol o dan arweiniad y Cadeirydd

    Croeso ac Ymddiheuriadau

Croesawodd y Cadeirydd David Tatem, Swyddog Ecwmenaidd yr EDdU (ymwelydd), John Thorne wrth iddo ddychwelyd i gyfarfodydd y Comisiwn, a’r Esgob Wyn Evans a’r Parchg Marc Dummer wrth iddynt ymuno â’r Comisiwn.  Derbyniodd ymddiheuriadau oddi wrth y rhai a nodir uchod a diolchodd i Eglwys y Ddinas am ddarparu lleoliad ar gyfer cyfarfod y prynhawn.  Mynegodd Aelodau’r Comisiwn eu tristwch ynghylch parhad gwaeledd Peter Trow a hefyd ynghylch salwch Kate Willson.

GWEITHREDU: RHIAN i anfon cerdyn at y ddau ohonynt.

2. Cofnodion cyfarfod y Comisiwn ar 18 a 19 Mai 2009

Cymeradwywyd a llofnodwyd Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn Eglwys Bresbyteraidd Trinity a Gwesty’r Ramada Plaza, Wrecsam, ar 18 a 19 Mai 2009.

 

 

3. Materion yn codi o’r Nodiadau ar Gamau Gweithredu

            Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

4. Adroddiad y Trysorydd

Darparodd y Trysorydd gopïau o’r fantolen fisol reolaidd a oedd yn dangos bod sefyllfa ariannol a gwariant y Comisiwn ar hyn o bryd yn ddiogel o fewn y ffiniau a ragwelwyd.

Darparodd y Trysorydd hefyd gyllideb amlinellol ar gyfer y Comisiwn hyd at fis Awst 2011.  Cyflwynodd gyda’r gyllideb dri chwestiwn i’r Comisiwn eu hystyried parthed ariannu’r Comisiwn yn y dyfodol. Cafwyd trafodaeth fer ynghylch y cwestiynau hynny a phenderfynwyd gosod y cwestiynau gerbron cyfarfod nesaf y Comisiwn gan eu hystyried yng ngoleuni’r cyfarfod gyda’r Arweinwyr Eglwysig ym mis Rhagfyr.

GWEITHREDU: RHIAN i ddiolch i Anthony am y gyllideb ac i gynnwys y mater uchod ar agenda’r cyfarfod nesaf.

5. Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Comisiwn

Penodwyd Marc Dummer yn Is-gadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2009-2010 a chytunodd Sue Huyton i barhau i wasanaethu fel Cadeirydd dros y cyfnod hwnnw.

6. Adroddiad o Bwyllgor Canol Cyngor Eglwysi’r Byd

Cyflwynodd Sarah Rogers ei hadroddiad ar gyfarfod Pwyllgor Canol CEB a gynhaliwyd yng Ngenefa o 26 Awst hyd 2 Medi 2009 ac y bu iddi ei fynychu ar ran y Comisiwn.

Diolchwyd i Sarah am ddogfen gryno oedd eto’n llawn gwybodaeth a chytunwyd bod angen anfon copïau o’r ddogfen at yr eglwysi a’i dosbarthu’n ehangach hefyd.  Nododd Sarah fod angen, yn ddelfrydol, rhoi rhybudd ymlaen llaw i CEB ynghylch unrhyw faterion i’w codi fel y gallent gychwyn ar y gwaith o lunio Datganiadau cyn y cyfarfodydd.  

Cytunwyd y dylid gosod yr adroddiad ar y wefan a chynnwys enw Sarah fel y gallai eglwysi gysylltu â hi gydag unrhyw faterion posibl i’w codi yng nghyfarfod nesaf CEB.

GWEITHREDU: RHIAN i osod yr adroddiad ar wefan Cytûn ac i gynnwys cyfeiriad e-bost Sarah fel y gellir cysylltu â hi.

7. Cyflwyno Adroddiad Terfynol y Panel Ffydd a Threfn

Cyflwynodd Gwynn ap Gwilym yr adroddiad ac amlinellodd yr wyth argymhelliad oedd ynddo.  Amlinellodd hefyd gynnig gan Gethin Abraham-Williams, y byddir yn ei gyflwyno i’r Cyfarfod gyda’r Arweinwyr Eglwysig, y dylid ystyried gwahodd Esgob o Eglwys Gogledd India i ddod ar secondiad am dair blynedd gyda’r Comisiwn yng Nghymru.

Diolchwyd yn wresog i Gwynn a’r panel am eu gwaith ar y ddogfen uchod ac am gynnig casgliadau a fyddai’n gosod yr her angenrheidiol i’r Comisiwn o 2011 ymlaen.

Cytunwyd y byddai Gwynn yn paratoi rhagair i’r ddogfen a fyddai’n nodi bod iddi bellach gefnogaeth gref a chymeradwyaeth y Comisiwn. Anfonir y ddogfen wedyn at bawb a wahoddir i’r cyfarfod ym mis Rhagfyr ac os caiff ei chymeradwyo yno fe’i hanfonir at yr holl enwadau.

GWEITHREDU: GWYNN i ychwanegu rhagair i’r adroddiad ac i gynnwys argymhellion Gethin fel ychwanegiad at yr wyth argymhelliad gwreiddiol.

RHIAN i anfon yr adroddiad diwygiedig at y rhai a wahoddir i’r cyfarfod ym mis Rhagfyr.

8. Y diweddaraf ar ‘Yr Ymgynulliad’

Darllenodd Rhian yr ateb o Balas Lambeth i’w llythyr yn gofyn i Archesgob Caergaint fod yn bresennol yn yr Ymgynulliad.  Ni all fod yno.  Rhoddwyd y gorau i’r bwriad i gynnal Ymgynulliad o gwmpas y Sulgwyn yn 2010.

Cytunwyd bod angen proffil uwch ar gyfer y Comisiwn a’r Cyfamod; byddai un o argymhellion y Panel Ffydd a Threfn yn mynd i’r afael â hynny i ryw raddau drwy gynnig y dylai’r Comisiwn drefnu Cynulliad Cynrychioliadol o’r Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru bob tair blynedd gan gychwyn yn 2011.  

Cytunwyd hefyd bod angen cychwyn ar y gwaith o gynllunio ar gyfer y digwyddiad hwnnw’n fuan ac y dylid ei gyhoeddi yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr.

GWEITHREDU: CADEIRYDD y cyfarfod ym mis Rhagfyr i dynnu sylw at y cynnig i gynnal Cynulliad Cynrychioliadol o’r Eglwysi Cyfamodol bob tair blynedd.

9. Cyflwyno’r ymateb i’r ddogfen ‘Called to be the One Church’

Amlinellodd Gwynn ap Gwilym y cefndir i’r ymgynghoriad hwn.  Diolchodd i Geraint Hopkins am grynhoi ymatebion y pum enwad a llunio’r ddogfen a gyflwynid.  Gosodir y ddogfen gerbron y cyfarfod ym mis Rhagfyr ac yna fe’i hanfonir yn ôl at y pum enwad i’w thrafod a’i chymeradwyo’n derfynol.  Ar ôl hynny bydd yn dychwelyd i’r Comisiwn ac fe’i hanfonir i CEB ymhell cyn y dyddiad targed ar gyfer ymateb yn 2013.

Bu trafodaeth ynghylch:

  • Y ffaith bod yr Eglwys yng Nghymru’n llwyr gydnabod gweinidogaethau ordeiniedig yr enwadau eraill o fewn y Cyfamod.  (Bod y Cyfamod a chyflwyno’r Canonau Ecwmenaidd wedi datrys y materion diwinyddol sylfaenol ond bod manylion trefniadol yn llesteirio llwyddiant hynny; ac nad oes unrhyw resymau sylfaenol parthed Ffydd a Threfn na diwinyddiaeth pam na all yr Eglwys yng Nghymru gydnabod gweinidogaethau ordeiniedig yr enwadau eraill o fewn y Cyfamod.)
  • Yr angen am ddimensiwn Cymreig cryfach yn y ddogfen er mwyn adlewyrchu’n well sefyllfa Cymru heddiw.
  • Yr angen i anfon y ddogfen at y pwyllgorau enwadol priodol ac at Fainc yr Esgobion er gwybodaeth yn hytrach nag i’w thrafod.

GWEITHREDU: GERAINT i gynnwys yr awgrymiadau o’r cyfarfod hwn o fewn y ddogfen.

RHIAN i anfon yr adroddiad diwygiedig at y rhai a wahoddir i’r cyfarfod ym mis Rhagfyr.

RHIAN i drefnu cyfieithu’r ddogfen.

10. Adroddiad ar yr ymweliad â Milton Keynes

Cyflwynodd Rhian adroddiad ynghylch ei hymweliad hithau a Steve Willson â Milton Keynes fis Gorffennaf.  

Nododd sut roedd rhai o’r pethau a welodd ym Milton Keynes yn berthnasol i’r sefyllfa ymddangosiadol ym Mhartneriaeth Ecwmenaidd Leol Dwyrain Caerdydd a dilynwyd hynny gan drafodaeth ynghylch sut y gallai’r Comisiwn gefnogi’r Bartneriaeth yn Nwyrain Caerdydd yn y ffordd orau.  

Cytunwyd bod angen rhyw fath o broses cyd-deithio yn Nwyrain Caerdydd er mwyn dirnad i ba gyfeiriad y mae’r Bartneriaeth yn dymuno symud ac er mwyn canfod pa lefel o ymroddiad sy’n aros i’r broses bartneriaethol.  Cytunwyd hefyd bod angen elfen o fyfyrdod diwinyddol fel rhan o’r broses cyd-deithio ynghyd â goruchwyliaeth fugeiliol er mwyn cynnig ffordd o fynegi siomedigaethau’r gorffennol.

Cynigiwyd y dylid sefydlu Ardal Unedig ffurfiol yn Nwyrain Caerdydd a phenodi ‘Llywydd Ecwmenaidd’ i weithio gyda’r partneriaid.  Cynigiodd Peter Noble y gellid ehangu’r swydd wag ran amser bresennol yn Eglwys yr Atgyfodiad i fod yn swydd amser llawn ar gyfer ‘llywydd’ a fyddai’n gweithio o’r eglwys honno.  Byddai cyfyngiad ar hyd ar y penodiad hwnnw a byddai’n rhaid penodi gweinidog yn yr EDdU yn y lle cyntaf.  

Yr ail ddewis a drafodwyd oedd cynnig i ddod ag Esgob Ecwmenaidd o Eglwys Gogledd India i Gymru ar secondiad gyda’r person hwnnw’n gweithredu o bosibl fel ‘Llywydd Ecwmenaidd’ yn Nwyrain Caerdydd.  Trafodwyd y posibilrwydd o wneud y syniad hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Cytûn a’r Comisiwn, prosiect a allai fod yn gymwys ar gyfer cyllid oddi wrth Gyngor y Genhadaeth Fyd-eang, yn enwedig pe byddai Eglwys Gogledd India neu Raglen Partneriaid Cenhadol yn rhan o’r trefniadau.

GWEITHREDU: RHIAN i fynychu cyfarfod nesaf Cyngor Gweithredol Dwyrain Caerdydd.

PETER i lunio papur ar ei gynigion ynghylch gweinidogaeth yr EDdU yn yr ardal erbyn 9 Rhagfyr.

11. Adroddiad o gyfarfod diwethaf Swyddogion Ecwmenaidd yr Eglwys yng Nghymru

            Adroddodd Gwynn ap Gwilym ynghylch tri mater:

                      i.        Y cynnig y dylid sefydlu Cyfamod Anglicanaidd-Methodistaidd gyda’r Eglwys yng Nghymru.  Penderfynodd Mainc yr Esgobion, gan fod y ddwy eglwys dan sylw eisoes mewn Cyfamod yn rhinwedd Cyfamod 1975, nad oedd angen sefydlu Cyfamod newydd. Fod bynnag, fe fydd cynrychiolwyr o Gymru’n mynychu’r Cydbwyllgor Gweithredu rhwng yr Anglicaniaid a’r Methodistiaid yn Lloegr.

                     ii.        Y ffaith bod eglwysi Cymru wedi colli eu hunig gynrychiolydd ar Bwyllgor Canol Cynhadledd Eglwysi Ewrop yn Lyons.  Mae chwech allan o’r saith sedd a glustnodir ar gyfer Prydain ar CEE bellach wedi’u dyrannu i Loegr.  Gofynnodd Mainc yr Esgobion a’r Panel Ecwmenaidd i Aled Edwards ymholi i’r mater hwn gydag EYMI a CEE.

                    iii.        Roedd adborth yn dod o bob esgobaeth ynghylch canfod ardaloedd addas ar gyfer sefydlu Partneriaethau Ecwmenaidd Lleol newydd; roedd teimlad bod angen rhagor o hyblygrwydd ynghylch maint yr ardaloedd y gellid eu hystyried, gyda’r posibilrwydd o greu partneriaethau ar gyfer ardaloedd eang yn ogystal ag ardaloedd llai.

GWEITHREDU: ALED i ymgynghori ag EYMI a CEE ynghylch cynrychiolaeth o Gymru.

12. Cadarnhau materion cyfansoddiadol yn ymwneud â’r Comisiwn

Adroddodd Aled Edwards y byddai Cytûn cyn bo hir yn gwahodd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion a’r Comisiwn i barhau mewn partneriaeth â Cytûn ac y byddai sedd ar gael ar y Grŵp Galluogi ar gyfer cynrychiolydd o’r Comisiwn.  Ni fydd sedd ar y Bwrdd gan na all y Comisiwn fod yn Aelod Categori A; fodd bynnag, gallai’r Bwrdd gytuno i ganiatáu Statws Sylwedydd ar gyfer cynrychiolydd  o’r Comisiwn.  

Mae Brian Matthews yn cynrychioli’r Comisiwn ar Bwyllgor Adnoddau Dynol Cytûn a phenodwyd Cathy Gale i gynrychioli’r Comisiwn ar y Grŵp Galluogi.

13. Llythyr oddi wrth Leslie Griffiths

            Amlinellodd Gordon Sollis gefndir y llythyr a nododd y Comisiwn y papur gyda diddordeb.

14. Cyfarfod yr Arweinwyr Eglwysig, yr Esgobion ac Aelodau’r Comisiwn ar 9 Rhagfyr 2009

Dechreuwyd trafod hyn ond gohiriwyd y drafodaeth hyd sesiwn Fore Gwener.  Cytunwyd y pryd hwn y dylid gwahodd Llywydd EBC a Sarah Rogers i’r cyfarfod ar 9 Rhagfyr.

            GWEITHREDU: RHIAN i anfon gwahoddiad a manylion at Gwenda a Sarah.

Dilynwyd cyfarfod y bore gan wasanaeth y Cymun Bendigaid yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas, o dan arweiniad Peter Noble.

Yn ystod sesiwn gyda’r nos bu Aelodau’r Comisiwn yn ystyried y llyfryn ‘Working out the Covenant: Guidelines for the Journey’ a Llawlyfr Ecwmenaidd Esgobaeth Tyddewi. Trafodwyd diben a chynulleidfa darged llyfryn arfaethedig y Comisiwn a chynigiwyd syniadau ar gyfer ei gynnwys.

BORE GWENER, 27 TACHWEDD 2009

Arweiniwyd Gweddïau Boreol gan Brian Matthews

14. Cyfarfod yr Arweinwyr Eglwysig – parhad

Trafodwyd y posibilrwydd o gydweinyddu yng ngwasanaeth y Cymun ar 9 Rhagfyr a gwrthodwyd y syniad.  

Trafodwyd hefyd a ddylid hysbysu’r cyfryngau ynghylch y cyfarfod ar 9 Rhagfyr ond ni wnaed unrhyw benderfyniad.

Trafodwyd ymhellach gynnig Gethin Abraham-Williams ar gyfer Cyfarfod yr Arweinwyr Eglwysig, sef y dylai’r Comisiwn wahodd Esgob o Eglwys Gogledd India i Gymru ar secondiad o dair blynedd.  Trafodwyd:

  • yr angen i’r unigolyn feddu ar agweddau diwinyddol a fyddai’n cydweddu â rhai’r Comisiwn;
  • yr angen i ganfod rhagor o wybodaeth ac i ddysgu oddi wrth brofiadau eraill a wahoddodd bobl i weinidogaethu ym Mhrydain ac yng Nghymru a phrofiadau’r gwahoddedigion eu hunain;
  • materion yn ymwneud ag adnoddau;
  • cwestiwn goruchwyliaeth yn Nwyrain Caerdydd, sydd eisoes i’w ddatrys, ac adladd siom y gorffennol.

 

Bu trafod pellach ynghylch safle’r Comisiwn o fewn Cytûn, yr angen am ddatganiad diwinyddol ynghylch y Cyfamod, yr angen i godi proffil y Cyfamod o fewn pob enwad ar draws Cymru a’r angen i Arweinwyr yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru gyfarfod yn fwy rheolaidd i weddïo ac i astudio’r Beibl.

PARHAD Y DRAFODAETH YNGHYLCH LLAWLYFR ECWMENAIDD Y COMISIWN

            Bu trafod ynghylch:

  • Y llyfryn fel lladmerydd ar gyfer y Cyfamod.
  • Y gynulleidfa darged – pobl mewn safleoedd arweiniol, clerigwyr, cynghorau plwyfol eglwysig a chynghorau eglwysig.
  • Lefel iaith – yn dderbyniol ar gyfer pobl ar lefel TGAU ac uwch.
  • Hygyrchedd –copïau caled ynteu ar-lein?  Cytunwyd i ddarparu’r ddau.  Byddai rhagor o awdurdod i’r testun o’i gyhoeddi fel copi caled.
  • Costau cynhyrchu a diweddaru’r llyfryn.
  • Pwy fyddai’n ysgrifennu’r llyfryn.
  • Yr angen i bob eglwys dderbyn copi / copïau ac efallai talu am eu copïau eu hunain.

 

Cynigion:

  • y dylai pob enwad/eglwys i benodi un person ar gyfer grŵp a fyddai’n cyfarfod ac yn cynhyrchu amlinelliad o’r testun erbyn mis Ebrill;
  • y dylai’r Comisiwn wahodd Gethin Abraham-Williams i ysgrifennu drafft o’r llyfryn gan wahodd eraill i gyfrannu, er enghraifft, John Morgans, yr Esgob Huw…

GWEITHREDU: RHIAN i ddrafftio cynnig ynghylch cynnwys y llyfryn ar sail y nodiadau o’r drafodaeth nos Iau a’i anfon at Aelodau’r Comisiwn ar gyfer eu sylwadau.

RHIAN, os bydd angen, i gysylltu â phob enwad cyfamodol am enw un person i wasanaethu ar Weithgor y Llyfryn.

RHIAN i e-bostio’r Esgob Wyn i ganfod sawl copi a gynhyrchodd Esgobaeth Tyddewi o’u llyfryn hwy a beth oedd y gost.

15. Unrhyw Fater Arall

                      i.        Y gynrychiolaeth Fethodistaidd ar y Comisiwn – ymdriniwyd â hyn yn fewnol.

                     ii.        Safoni terminoleg ar gyfer ei defnyddio ac ar gyfer cyfieithu – cytunwyd bod angen penodi pobl i gyflawni’r gwaith hwn.  Byddid yn cynhyrchu llyfryn y gellid ei anfon at gyfieithwyr.  Awgrymwyd pedwar enw Gwynn ap Gwilym, Siôn Aled Owen, Catrin Roberts a Gwenllian Knighton.

                    iii.        Newyddion oddi wrth EYMI – Adroddodd Aled fod EYMI bellach yn ymsefydlogi ar ôl cyfnod poenus o newid.  Amlinellodd ddull ariannu EYMI a’r Offerynnau ac adroddodd fod cyllid Cytûn ar gyfer 2010 yn ddiogel.  Y cynrychiolwyr o Gymru ar EYMI yw Gwynn ap Gwilym, yr Esgob Wyn a Gwenllian Knighton.

                    iv.        ‘Delwedd’ y Comisiwn – Gofynnodd Rhian i’r Comisiwn ystyried mabwysiadu logo a ‘delwedd’ ar gyfer cyhoeddiadau’r Comisiwn os bydd rhagor i ddod.

                     v.        Newyddion Ecwmenaidd oddi wrth yr enwadau

Roedd John Garland wedi’i galonogi gan gyfarfod a gafodd â Rheithor newydd Penarth ynghylch y gwaith ecwmenaidd yn Llandochau.  Gobeithiai y byddai ond un arweinydd yn y Gwasanaethau Cymun y flwyddyn nesaf.

Soniodd Stephen Wigley am ddatblygiadau calonogol gyda’r EDdU yng Ngogledd Cymru.

Adroddodd Brian Matthews fod yr EDdU ac EBC yn cydweithio gymaint ag y gellid yn y Gogledd ac mai’r bwriad bellach oedd cynnwys yr Eglwys Fethodistaidd hefyd.  Soniodd am gynllun i greu Ardal Unedig yn y Gogledd ac adroddodd fod ailstrwythuro enwadol wedi newid y pwyslais yn y datblygiadau.  Soniodd hefyd fod Cyfamod ar gyfer Cydweithio’n cael ei lunio.

Adroddodd Ifan Roberts ynghylch datblygiadau gyda’r EDdU yng Nghasnewydd – gwerthwyd un eglwys a chodwyd adeilad newydd.  Mae Partneriaeth Ecwmenaidd Leol yn cael ei ffurfio a’r nod yw sefydlu gweinidogaeth ar y cyd.

Adroddodd Peter Noble fod gan yr EDdU swydd wag amser llawn ym Mhenarth ac mai’r gobaith oedd ehangu’r weinidogaeth honno ond na phenderfynwyd eto ynghylch i ba gyfeiriad.

                    vi.        Gwasanaeth y Cymun yn yr Eisteddfod – gofynnodd Aled Edwards am farn Aelodau’r Comisiwn ynghylch priodoldeb parhau i gynnal Gwasanaeth Cymun ym Mhabell yr Eglwysi yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.  Cafwyd trafodaeth fer ond cytunwyd yr hoffai’r Comisiwn barhau â’r arfer o gynnal un Gwasanaeth Cymun yn ystod wythnos yr Eisteddfod gan dderbyn sensitifrwydd y sefyllfa.

GWEITHREDU: (ii) RHIAN i anfon manylion cyswllt ar gyfer Catrin a Gwenllian i Gwynn.

14. Cyfarfodydd i ddod

Dydd Iau 11 Chwefror 2010 yng Nghanolfan Addysg a Chelfyddydau’r Gateway, Amwythig.

Dydd Iau 29 Ebrill 2010 yn y Gogledd (ac efallai ar ddydd Gwener 30 Ebrill hefyd).

 

Diolchodd Sue i Siôn Aled am gyfieithu yn y cyfarfod.

Diweddodd y cyfarfod gydag adrodd y Gras am 1pm.

%d bloggers like this: